Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2018
Amser: 08.30 - 09.03
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Anfonodd Arweinydd y Tŷ ei hymddiheuriadau oherwydd salwch.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y ddau gyfarfod blaenorol ar gyfer eu cyhoeddi.
Busnes yr wythnos hon
Bydd y Llywodraeth yn cadarnhau cyn gynted â phosibl pwy fydd yn cyflawni dyletswyddau Arweinydd y Tŷ yn y Cyfarfod Llawn.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am wybodaeth am y gyfran o adroddiadau gan bwyllgorau y neilltuwyd amser i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn, a chytunwyd y dylid trefnu o leiaf un ddadl gan wrthblaid bob wythnos o hyn ymlaen.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018 -
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i’r Byd (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i geisio ail-drefnu rhywfaint o fusnes y Cynulliad o ddydd Mercher 5 Rhagfyr i ddydd Mawrth 27 Tachwedd fel y gallai'r Llywodraeth drefnu'r ddadl Cyfnod 3, a gofynnwyd i'r Llywodraeth esbonio pam na ellid dwyn y ddadl ynghylch yr M4 ymlaen o 4 Rhagfyr er mwyn creu lle ar gyfer y ddadl Cyfnod 3.
Dywedodd Darren Millar na fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn derbyn y cynnig i gadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau gael ei hailddyrannu i'r Ceidwadwyr Cymreig oni fydd materion eraill yn cael eu datrys yn gyntaf. Cadarnhaodd Rhun ap Iorwerth a Darren Millar nad oedd y cyfarfod rhwng y ddau arweinydd wedi arwain at unrhyw gytundeb newydd. Ar sail hynny, penderfynodd y Rheolwyr Busnes beidio â threfnu cynnig i ail-ddyrannu cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau, a bydd y dyraniad presennol o Gadeiryddion i grwpiau'r pleidiau yn aros fel y mae am y tro.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at drafod y lle gwag ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
Aelodaeth Pwyllgorau
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid ychwanegu cynnig i ethol Llyr Gruffydd fel aelod o Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i agenda'r Cyfarfod Llawn yfory.
Cynnig y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd cynnig a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.
Biliau Aelodau
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd y bleidlais ar gyfer Biliau Aelod yn cael ei chynnal ddydd Mercher nesaf ac mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno Bil oedd y dydd Iau cyn hynny. Gofynnodd iddynt atgoffa eu haelodau o'r cyfle i gynnig Bil ar gyfer y bleidlais ac i gael gwared ar unrhyw gynigion a allai fod yn amherthnasol bellach.